Cyd-destun Yr Urdd

1.    Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i sicrhau cyfle, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25) ddatblygu’n unigolion cyflawn: a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

2.    Heddiw mae gan yr Urdd dros 53,318 o aelodau oed 8-25 ac yn darparu ystod eang o ddarpariaeth o fewn ysgolion, y gymuned, canolfannau preswyl a theithiau tramor. 

3.    Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynllunio’n strategol gweithgareddau i blant, gwasanaethau ieuenctid, digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon a chyfnodau preswyl cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc Cymru gyfan.

4.    Daw 80% o incwm yr Urdd trwy ymdrechion masnachol a buddsoddiadau a chyfraniad economaidd canolfannau preswyl Glan-llyn, Caerdydd a Llangrannog.  Am bob £1 o arian cyhoeddus/grant a dderbynnir, mae’r Urdd yn cyfrannu £4.

5.    Mae gan yr Urdd gweithlu o tua 270 o staff llawn amser, rhan amser ac achlysurol. Yn ychwanegol mae 10,000 o wirfoddolwyr yn ymgysylltu yn rheolaidd gyda dros 53,500 o blant a phobl ifanc.

6.    Fel mudiad cenedlaethol sydd a’r gallu i ddarparu rhaglenni plant a phobl ifanc cenedlaethol cyfrwng Cymraeg, credwn fod gan yr Urdd rôl bwysig iawn wrth ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac ieithyddol pobl Ifanc wrth iddynt ennill cymwysterau a mentro i’r farchnad lafur.

Darpariaeth Prentisiaid Cyfrwng Cymraeg Urdd Gobaith Cymru

7.    Cychwynnodd yr Urdd i ddarparu Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn 2013. Ar hyd y blynyddoedd mae’r cyfleoedd yma wedi cynyddu.

Cyfnod

Nifer

2013-14 (trwy Babcock)

3

2014-15

10

2015-16

15

2016-17

20

2017-18

25

 

8.    Darperir ein rhaglen Prentisiaethau mewn partneriaeth gydag ACT Training, sydd yn cynnig y cymorth gweinyddol.

 

9.    Ar gyfer y cymwysterau rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Agored Cymru, sy’n ein galluogi i ddarparu'r rhaglen Prentisiaethau yn y Gymraeg.  Hoffwn gydnabod eu cefnogaeth barod i raglen Prentisiaeth yr Urdd. 

 

10.  Mae gweithio gyda SkillsActive (y Cyngor Sgiliau'r Sector) wedi bod yn llai hwylus wrth iddynt gael gwared a’r staff oedd yn gweithio yng Nghymru, mae hyn wedi ei wneud yn anodd iawn i gysylltu â hwy.

 

11.  Hysbysebu / Recriwtio - Rydym yn hysbysebu ein cyfleoedd prentisiaethau yn uniongyrchol drwy wefan yr Urdd ac Lleol.cymru a thrwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.  Mae gan yr Urdd cysylltiadau da a sefydlog o fewn ysgolion a chymunedau.  Mae hyn yn ein galluogi i siarad yn uniongyrchol ag unigolion a chynnig opsiwn gwahanol iddynt yn lle mynd i Brifysgol.

 

12.  Nid ydym wedi defnyddio Gyrfa Cymru i hysbysebu hyd yn hyn. Rydym wedi ceisio cysylltu i drafod hwn eleni, ac er wedi ein cyfeirio at siarad â sawl person rydym dal heb gael ateb ar sut i hysbysebu ein cyfleoedd ar-lein. Rydym wedi mynychu 3 Ffair Gyrfa a drefnwyd gan Gyrfa Cymru eleni.

 

13.  Wrth ddarparu cyfleoedd mae’r gallu i Brentisiaid gyrru yn ffactor bwysig wrth recriwtio. Mae natur y gwaith maent yn cyflawni yn golygu bod angen iddynt deithio i ddarparu sesiynau chwaraeon yn y gymuned. Rydym wedi gallu cynnig cyfleoedd i rai yng Nghaerdydd dan yr amod ei bod yn gweithio tuag at basio y prawf gyrru.  O fewn ardaloedd gwledig, rydym fedru cynnig llety i’r unigolion sydd yn dilyn y cynllun yn ein gwersylloedd. Mae rhai unigolion yn colli’r cyfle i ddilyn Prentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru gan nad ydynt yn medru gyrru a'u bod yn byw mewn ardal heb drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol.

 

14.  Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Rydym yn falch iawn i allu cynnig rhaglen Prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys y Sgiliau Hanfodol. Rydym yn cael anhawster i ddiogelu bod y cymwysterau galwedigaethol ar gael i’w darparu a’u dilysu yn y Gymraeg.  Mae 1st4sport (sydd wedi ei leoli yn Lloegr) ac Agored Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i oresgyn hyn. Er hyn, ni fydd hyn yn digwydd am yr holl gymwysterau sydd ei angen i gwblhau'r Fframwaith.

 

15.  Eleni am y tro cyntaf rydym yn darparu cyfle Prentisiaeth i Athrawon Cynorthwyol sydd yn gyflogedig gan ysgol cynradd fel eu bod yn medru cynnig gweithgareddau chwaraeon ac chadw’n actif i blant.  Cynnig y cyfle hwn o fewn ardal Cymunedau 1af ym Mwrdeistref Caerffili.

16.  Mae'r Prentisiaid wedi cael dylanwad enfawr ar waith cymunedol yr Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru . Gyda'u brwdfrydedd a’r sgiliau maent yn meithrin, rydym wedi cynyddu ein darpariaeth ar draws Cymru.  Er enghraifft, eleni yn Ynys Môn, lleolwyd Prentis llawn amser yn ein swyddfa ranbarthol. Gwelwyd nifer o glybiau newydd yn cychwyn, gydag agos i 300 o blant yn mynychu'n wythnosol, a dros 600 wedi mynychu sesiynau blasu ers Ionawr 2017.

 

17.  Dilyniant a chanlyniadau ein rhaglen prentisiaeth. Ers y cychwyn mae 43 o Brentisiaid wedi mynychu neu yn dilyn y Cynllun Prentisiaid.

-       20 prentisiaid yn dilyn y cwrs 2016-17.

-       1 Prentis erbyn nawr yn Swyddog Datblygu o fewn yr Adran Chwaraeon.

-       2 yn gweithio fel Swyddogion Prosiect ac yn dilyn cwrs rhan-amser o fewn Prifysgol.

-       11 yn gweithio o fewn Gwersylloedd yr Urdd.

-       3 yn y Brifysgol yn dilyn cyrsiau Chwaraeon neu weithio gyda phlant.

-       6 yn gweithio llawn-amser. Nifer ohonynt yn Athrawon Cynorthwyol

 

18.  Mae Urdd Gobaith Cymru yn gweld y budd i ddarparu rhaglen Prentisiaeth Cyfrwng Cymraeg am y rhesymau canlynol:-

-       i ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg;

-       arddangos i bobl ifanc gwerth economaidd y Gymraeg o fewn y farchnad lafur

-       cynyddu nifer ac ystod gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored i blant a phobl ifanc gan feithrin agwedd bositif at ymarfer corfforol a chadw’n iach

-       darparu cyfleoedd hyfforddi cyson cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru

-       darparu cyfleoedd gwaith o fewn ardaloedd gwledig a chymoedd Cymru

 

19.  Dymuna Urdd Gobaith Cymru datblygu'r rhaglen Prentisiaeth yn y dyfodol, cynyddu'r cyfleoedd sydd i bobl ifanc i ennill cymwysterau a dilyniant galwedigaethol a thrwy hyn cynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn cymunedau Cymru.